Mae dyn wedi ei gael yn euog o ladd dyn arall trwy esgeulustod yn ystod gêm rywiol.

Clywodd Llys y Goron Caergaint fod Alun Williams, 47, wedi dioddef trawiad ar y galon ar ôl gofyn am gael ei orchuddio â haenau o clingfilm a PVC.

Cafwyd Richard Bowler, 35, yn euog o ddynladdiad tra bod dyn 23 oed, David Connor wedi’i ganfod yn ddieuog o’r un cyhuddiad.

Clywodd y llys fod Alun Williams, oedd yn gogydd ar fferi P&O wedi mynd i fflat lle’r oedd y ddau ddiffynnydd yn byw yn Dover ar Awst 20, yn dilyn cyfres o negeseuon testun.

Roedd yn aml yn cwrdd â dynion am ryw ar ôl cynnal trafodaethau ar y we.

Clywodd y llys fod Bowler yn dioddef o barlys yr ymennydd a bod Connor yn gofalu amdano.

Gadawodd Connor y fflat ar ôl clywed bod Bowler yn cwrdd ag Alun Williams yn ei fflat am ryw.

Dywedodd Bowler wrth Connor fod Alun Williams wedi gofyn am gael ei orchuddio â clingfilm.

Yn oriau mân y bore, ffoniodd Bowler y gwasanaethau brys ar ôl ceisio gwneud CPR, gan ddweud nad oedd Alun Williams yn anadlu yn dilyn gêm rywiol.

Pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys y fflat, roedd Alun Williams wedi’i orchuddio â’r clingfilm a PVC, ond roedd ychydig o le iddo anadlu trwy ei geg a’i drwyn.

Daeth adroddiad post-mortem i’r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i gael ei orchuddio ac am iddo gymryd cyffuriau.

Roedd yr heddlu wedi dod o hyd i amryw fathau o gyffuriau ym mag Alun Williams, yn ogystal â theganau rhyw.
Roedd Bowler a Connor wedi gwadu dynladdiad.

Bydd Bowler yn cael ei ddedfrydu’n ddiweddarach heddiw.