Fe fydd bachgen 13 oed yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dyn fu farw ar ôl ffrae gyda grŵp o lanciau.
Bu farw Christopher Barry, 53, ar ôl cael ei drywanu yn ei gartref yn Edmonton, gogledd Llundain nos Sul.
Honnir ei fod wedi bod yn gysylltiedig â digwyddiad gyda grŵp o lanciau oedd yn ceisio mynd i barti mewn fflat arall yn y bloc o fflatiau lle’r oedd yn byw.
Cafodd y bachgen ei gyhuddo o lofruddiaeth neithiwr a chafodd ei gadw yn y ddalfa. Bydd yn mynd gerbron Llys Ieuenctid Highbury Corner heddiw, meddai Scotland Yard.
Cafodd pedwar bachgen arall – tri ohonyn nhw yn 14 oed ac un yn 13 oed – eu harestio ar amheuaeth o lofruddio a’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau’r heddlu barhau.