Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio y gallai’r glaw trwm ledled Cymru arwain at lifogydd heddiw ac yfory.

Mae disgwyl i’r glaw bara tan bore fory ar draws rhannau helaeth o orllewin, canolbarth a gogledd Cymru.

Mae rhybudd i deithwyr fod yn ofalus ar y ffyrdd ac fe all fod oedi ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydden nhw’n cyhoeddi rhybuddion am lifogydd maes o law pe bai angen.

Dylai teithwyr gadw llygad ar ragolygon y tywydd a’r newyddion lleol am y diweddaraf am y ffyrdd drwy gydol y dydd.

Bydd mwy o wybodaeth yn ystod y dydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, www.naturalresourceswales.gov.uk/alerts