David Cameron
Bydd David Cameron yn dweud wrth arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon heddiw ei bod hi’n amser canolbwyntio ar sut mae defnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw’n barod, yn hytrach na thrafod pa bwerau eraill y gellid eu datganoli.

Mae Prif Weinidog y DU yn gobeithio defnyddio sesiwn o’r Cydbwyllgor Gweinidogion i drafod materion sy’n effeithio’r DU i gyd – gan gynnwys cael eu briffio gan y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth am y bygythiad gan frawychwyr Islamaidd.

Dyma’r tro cyntaf i’r arweinwyr ddod at ei gilydd ers i’r Alban bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ym mis Medi. Yn sgil yr ymgyrch, mae Llundain wedi rhoi addewid i roi rhagor o bwerau i Gaeredin, Caerdydd a Belfast.

Y cyfarfod yn Downing Street fydd y tro cyntaf i David Cameron a Nicola Sturgeon gyfarfod wyneb yn wyneb ers iddi ddod yn Brif Weinidog yr Alban.

Bydd hefyd yn rhoi Cameron nôl yn yr un ystafell â Peter Robinson a Martin McGuinness o Lywodraeth Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf ers ei iddo ymyrryd yn uniongyrchol mewn trafodaethau ym Melfast wythnos diwethaf.

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hefyd yn bresennol ar gyfer sesiwn friffio gan y Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth ar y Cyd (JTAC).

Meddai Rhif 10 mai’r nod oedd meithrin gwell dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu gwledydd Prydain ac i annog cydweithrediad agosach i fynd i’r afael ag eithafiaeth gartref a thramor.