Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi denu buddsoddiad o £20 miliwn o gronfa’r Undeb Ewropeaidd er mwyn sefydlu canolfan arloesi a menter.

Dyma’r prosiect cyntaf i gael ei gymeradwyo drwy raglenni cyllid newydd yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Cronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop yn rhannu £2 biliwn dros chwe blynedd a bydd Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio’r arian i ddatblygu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth (CAMA) yn y Brifysgol.

Fel rhan o’r prosiect yng Nghampws Gogerddan, bydd cyfleuster newydd o’r radd flaenaf yn cael ei godi i ddenu mwy o gyllid ymchwil er mwyn i gwmnïau ac ymchwilwyr allu ymgymryd â phrosiectau ymchwil cydweithredol i hybu bioeconomi yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r ymchwil greu cynhyrchion, gwasanaethau a chwmnïau newydd ym meysydd bwyd cynaliadwy, iechyd, biotechnoleg ac ynni adnewyddadwy.

‘Arwain y ffordd’

Dywedodd Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth Cymru Jane Hutt: “Rwy’n hynod falch o gyhoeddi’r buddsoddiad hwn gan yr Undeb Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n garreg filltir bwysig fel y cynllun cyntaf i gael arian Ewropeaidd o dan raglenni newydd yr Undeb Ewropeaidd 2014-2020.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i greu cyfleuster o’r radd flaenaf er mwyn denu cyllid ymchwil preifat a chystadleuol. Bydd hyn yn helpu Cymru i arwain y ffordd o ran datblygu technolegau, cynhyrchion a gwasanaethau arloesol yn y sector biowyddorau, sy’n hanfodol ar gyfer gwella nifer o swyddi a’r twf yn economi wybodaeth ein gwlad.”

‘Cynlluniau uchelgeisiol’

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y cyfraniad sylweddol o arian Ewropeaidd. Bydd hyn, ynghyd â chymorth pwysig gan BBSRC a’r Brifysgol, yn gwireddu ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y Campws Arloesi a Menter yng Ngogerddan.

“Rwy’n hyderus y bydd y datblygiad yn sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i wneud gwaith ymchwil effeithiol, gan roi llwyfan ar gyfer gweithio ochr yn ochr â diwydiant i ateb problemau byd-eang, a dod â swyddi a thwf angenrheidiol i’r Gorllewin.”

Bydd y prosiect yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol, lle mae ymchwil eisoes yn cael ei chynnal i fynd i’r afael â heriau byd-eang fel diogelwch bwyd, bioynni a chynaliadwyedd, ac effaith y newid yn yr hinsawdd.