Jim Murphy, arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban
Mae’r Blaid Lafur yn yr Alban wedi cyhoeddi mai Jim Murphy yw ei harweinydd newydd.

Fe enillodd Jim Murphy, AS Dwyrain Renfrewshire, mwy na hanner y bleidlais. Y ddau ymgeisydd arall oedd llefarydd iechyd Holyrood Neil Finlay, a chyn weinidog Gweithgor yr Alban Sarah Boyack.

Bu’n rhaid i’r blaid ethol arweinydd newydd ar ôl i Johann Lamont gamu o’r swydd yn annisgwyl, gan gyhuddo ASau yn San Steffan o geisio israddio’r Alban.

Cafodd Kezia Dugdale, AS ardal Lothian, ei hethol yn ddirprwy arweinydd y blaid.

‘Braint anhygoel’

Dywedodd Jim Murphy bod cael ei ethol yn arweinydd “yn fraint anhygoel”.

Wrth annerch aelodau o’r blaid yn Glasgow, dywedodd: “Mae hyn yn ddechrau newydd i Lafur yn yr Alban.
“Mae’r Alban yn newid, ac felly hefyd mae’n rhaid i’r Blaid Lafur yn yr Alban.”

Fe bwysleisiodd yr angen i “uno’r” Alban gan ychwanegu “nid y refferendwm sydd wedi hollti’r Alban, ond amgylchiadau.”

Tra bod y mwyafrif yn llwyddiannus, meddai, “mae ’na leiafrif sydd ddim yn cael cyfleoedd, sy’n teimlo na allen nhw ddianc o galedi eu magwraeth.”

Blaenoriaeth y blaid, meddai, “yw dod a diwedd i’r anghydraddoldeb yma unwaith ac am byth.”

Dywedodd mai’r ffordd i wneud hynny oedd drwy hybu’r economi drwy gefnogi busnesau a chreu swyddi.

Roedd Jim Murphy wedi chwarae rhan flaenllaw yn refferendwm ar annibyniaeth yr Alban a dywedodd bod ganddo fwy yn gyffredin “gyda gwerthoedd y cannoedd ar filoedd oedd wedi pleidleisio Ie yn y refferendwm na gyda’r arweinwyr gwleidyddol oedd wedi ymgyrchu dros bleidlais Na.”

Gyda phwerau newydd yn cael eu rhoi i Senedd yr Alban yn sgil y refferendwm, dywedodd yr arweinydd newydd “nad oes esgusodion bellach” dros beidio cael gwlad decach.