David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi lansio rhaglen ryngwladol sy’n mynd i’r afael ag achosion o gam-drin plant dros y we.
Mae’r gyfres o fesurau newydd yn cynnwys deddf benodol sy’n ei gwneud hi’n drosedd i anfon negeseuon rhywiol at blant.
Ymgais yw’r ddeddf i geisio atal pedoffiliaid rhag gofyn i blant am ddelweddau anweddus.
Bydd y mesurau hefyd yn ceisio atal pedoffiliaid rhag rhannu delweddau a fideos anweddus o blant ar wefannau.
Bydd yr Asiantaeth Torcyfraith Genedlaethol a GCHQ yn cydweithio i ddod o hyd i’r pedoffiliaid mwyaf peryglus sy’n defnyddio dulliau cymhleth er mwyn aros yn anhysbys ar y we a rhannu delweddau gyda’i gilydd.
Dywedodd David Cameron mewn cynhadledd heddiw: “Mae plant yn cael eu magu yn ein byd heddiw, ac mae llawer o fygythiadau yn eu hwynebu.
“Mae’r bygythiadau’n esblygu.”
Yn ystod y gynhadledd, anogodd rieni a phlant i drafod peryglon y we, ond ychwanegodd: “Mae hynny’n anodd i rieni – rydyn ni’n dal i ddysgu cryn dipyn am y rhyngrwyd ein hunain.”
Wrth ganmol cwmnïau rhyngrwyd am eu cydweithrediad, dywedodd y dylen nhw ymdrechu i gymryd camau tebyg yn erbyn brawychwyr.
Daw ei sylwadau wedi i Facebook gael eu beirniadu am fethu ymateb i negeseuon a gafodd eu hanfon gan un o’r dynion a gafwyd yn euog o lofruddio’r milwr Lee Rigby.