Ed Miliband
Fe fydd Ed Miliband yn amlinellu ei gynlluniau heddiw i leihau dyledion y wlad petai lywodraeth lafur yn dod i rym yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Mewn araith ar yr economi heddiw fe fydd arweinydd y blaid yn dweud y byddai’n torri gwariant cyhoeddus yn y rhan fwyaf o adrannau Whitehall bob blwyddyn i fynd i’r afael a’r dyledion ac yn cymryd agwedd “gadarn ond cytbwys” tuag at yr economi.
Mae disgwyl iddo ddweud mai bwriad y blaid yw cael gwared a dyledion y wlad “mor fuan â phosib” ar ôl yr etholiad cyffredinol, ac erbyn 2020 fan bellaf.
Ond mae’n mynnu y bydd yn gwneud hynny mewn modd mwy cytbwys a theg na’r Ceidwadwyr.