Yr ysbyty iechyd meddwl yng Nghaerloyw
Mae claf 62 oed mewn ysbyty iechyd meddwl wedi cyfaddef llofruddio gweithwraig iechyd yng Nghaerloyw.
Yn Llys y Goron Bryste, plediodd Ryan Matthews yn euog trwy gyswllt fideo i lofruddio Sharon Wall.
Bu farw Sharon Wall yn ysbyty Wotton Lawn ar Orffennaf 9 eleni.
Cafodd Matthews ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Ionawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Swydd Gaerloyw: “Mae ein meddyliau ar hyn o bryd gyda theulu Sharon ac fe fyddwn yn parhau i’w cefnogi nhw drwy’r cyfnod anodd hwn.
“Mae’r teulu’n teimlo rhyddhad o gael y ple euog cynnar hwn ond maen nhw wedi’u chwalu gan y golled ac fe fyddan nhw’n dechrau cael diwedd i’r mater dim ond pan fydd Matthews yn cael ei ddedfrydu yn y flwyddyn newydd.”