Leighton Andrews
Daeth cadarnhad y bore ma y bydd awdurdodau lleol Cymru yn gweld toriad o 3.4% yn eu cyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ym mis Hydref y bydd toriad pellach i gyllideb 22 cyngor y wlad a’r arian fydd ar gael iddyn nhw yn disgyn i £4.12 biliwn – sydd tua £145 miliwn yn llai na’r flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Ceredigion fydd yn gweld y toriad mwyaf o 4.5%, a Chastell-nedd Port Talbot fydd yn gweld y newid lleiaf, gyda gostyngiad o ddim ond 2.4%.

Wedi’r cyhoeddiad heddiw, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews: “Wrth baratoi’r Setliad Terfynol, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r ymatebion a gefais i’r ymgynghoriad ar y Setliad Dros Dro.

“Rwyf yn hyderus ei fod yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio ariannol gan yr Awdurdodau Lleol am y flwyddyn ariannol i ddod.”

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i Aelodau Cynulliad gymeradwyo Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru o £15biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesa’.