Roedd digon o drafod am refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014
A hithau yn tynnu tuag at derfyn blwyddyn arall, mae Facebook wedi rhyddhau rhestr o’r deg pwnc llosg gafodd eu trafod fwyaf gan ddefnyddwyr ym Mhrydain yn ystod 2014.

Ond am beth yn union fu pobl yn trafod, clebran a checru yn ei gylch ar y wefan gymdeithasol dros y deuddeg mis diwethaf?

Dyma’r deg uchaf – oes ’na bynciau eraill roeddech chi wedi disgwyl eu gweld? Pa straeon o Gymru ydych chi’n cofio gweld yn cael eu trafod fwyaf ymysg eich ffrindiau chi?

Gadewch eich sylwadau isod – neu rhowch wybod i ni ar dudalen Facebook golwg360.

1. Refferendwm yr Alban

Dim syndod o weld refferendwm yr Alban yn dod i’r brig, wrth i’r trafod a dadlau dros annibyniaeth neu beidio gyrraedd ei hanterth ar 18 Medi pan gynhaliwyd y bleidlais.

Dewis aros yn y Deyrnas Unedig wnaeth yr Albanwyr yn y diwedd o 55% i 45%, er i ambell bôl piniwn awgrymu y gallai’r ymgyrch Ie ei chipio hi.

A chyda’r drafodaeth yn parhau dros ba bwerau ychwanegol fydd yr Alban yn ei dderbyn yn sgil y refferendwm, mae’n siŵr y bydd rhagor o sgwrsio am hyn yn y flwyddyn i ddod.

2. Sialens Bwced Iâ

Prin yr oeddech chi’n gallu cymryd cip sydyn ar Facebook am rai misoedd eleni heb weld rhyw ffrind neu’i gilydd yn tywallt bwced o ia dros eu hunain.

Roedd yn rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am gyflwr niwrolegol ALS, gyda dros 17 miliwn o fideos yn cael eu huwchlwytho ar draws y byd wrth i bobl wneud y sialens mewn gwahanol lefydd.

Yn sicr dyma oedd ymgyrch viral mwyaf llwyddiannus 2014, gyda selebs a hyd yn oed gwleidyddion yn ymuno yn yr her.


Yr Almaen yn dathlu ennill Cwpan y Byd
3. Cwpan y Byd

Unwaith bob pedair blynedd yn ddi-ffael fe gewch chi filiynau o bobl ar hyd a lled y wlad sydd fel arfer ddim yn talu llawer o sylw i bêl-droed yn dal byg Cwpan y Byd.

Doedd eleni ddim yn wahanol, gyda’r twrnament ym Mrasil yn cydio yn nychymyg pobl a’r uchafbwyntiau gorau a mwyaf doniol yn cael eu rhannu’n ddi-baid ar wefannau cymdeithasol.

Yr Almaen aeth a hi gyda buddugoliaeth yn y ffeinal – tra bod Lloegr wedi mynd adref heb ennill gêm.

4. Y ras am Uwch Gynghrair Lloegr

Rhagor o bêl-droed, ac roedd tipyn o gyffro o gwmpas diwedd y tymor wrth i Man City a Lerpwl frwydro am Uwch Gynghrair Lloegr.

Ar un adeg roedd hi’n edrych fel petai Lerpwl am ennill y gynghrair am y tro cyntaf ers 1990.

Ond ar ôl canlyniadau siomedig i’r crysau coch yn erbyn Chelsea a Crystal Palace, Man City aeth a hi gyda’u hail dlws mewn tair blynedd.


Plentyn Palestinaidd ar ôl ymosodiad Israel ar Gaza
5. Gwrthdaro yn Gaza

Ym mis Gorffennaf eleni fe waethygodd y tensiynau yn Gaza unwaith eto wrth i’r Israeliaid a’r Palestiniaid wrthdaro.

Fe barodd y rhyfela am saith wythnos, gyda miloedd o Balestiniaid yn cael eu lladd gan fomiau Israel a degau o filwyr Israel hefyd yn cael eu lladd gan ymladdwyr Hamas.

Cafwyd cadoediad rhwng y ddwy ochr ym mis Awst, ond fe ddangosodd y gwrthdaro bod y sefyllfa ddiogelwch yn y Dwyrain Canol yn parhau yn fregus o hyd.

6. Robin Williams

Cafwyd teyrngedau lu i Robin Williams wedi’r newyddion fod yr actor a’r diddanwr adnabyddus wedi lladd ei hun ym mis Awst ar ôl bod yn dioddef o iselder.

Fe ddaeth yn enwog am actio mewn ffilmiau enwog fel Good Will Hunting a Mrs Doubtfire.

7. Louis van Gaal

Pêl-droed eto, ac fe fu llawer yn trafod Louis van Gaal ar ôl i’r gŵr o’r Iseldiroedd gael ei benodi yn rheolwr newydd Manchester United.

Yn gynharach yn yr haf fe arweiniodd van Gaal dîm yr Iseldiroedd i’r trydydd safle yng Nghwpan y Byd.


Canolfan feddygol i drin Ebola yn Sierra Leone
8. Afiechyd Ebola

Daeth afiechyd Ebola i sylw pob un ohonom yn ystod 2014 wedi i filoedd o bobl yng ngorllewin Affrica ddechrau dioddef o’r salwch marwol.

Bu pobl a llywodraethau o wledydd ar draws y byd yn codi arian ar gyfer cymorth meddygol, ond er nad yw’r afiechyd wedi ymledu rhyw lawer i wledydd cyfagos mae’n parhau i fod yn fygythiad.

9. Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr

Y pedwerydd pwnc pêl-droed yn y deg uchaf, a thro yma un oedd â Chymro yn serennu.

Gareth Bale beniodd y gôl dyngedfennol i sicrhau bod Real Madrid yn ennill Cwpan Ewrop am y degfed tro yn eu hanes, a hynny’n goron ar dymor cyntaf wych i Bale yn Sbaen.


Pabi coch i gofio'r rheiny fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf
10. Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Roedd 2014 wrth gwrs yn ganmlwyddiant ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac felly fe gynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn i nodi’r achlysur.

Fe welwyd y pabi coch hyd yn oed yn amlach eleni wrth i bobl eu gwisgo i gofio’r milwyr fu farw yn y rhyfel, gydag arddangosfa enfawr o babi coch yn Nhŵr Llundain.