Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru yn annog sefydliadau sydd â diddordeb mewn bod yn Endid Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion i wneud cais am grant am hyd at saith mlynedd.
Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am lunio strategaeth ar lefel genedlaethol, sef un o brif argymhellion yr Adolygiad o Gymraeg i Oedolion.
Bydd oddeutu £780,000 ar gael i’r Endid Cenedlaethol newydd rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Gorffennaf 2016. Gall sefydliadau gyflwyno ceisiadau am y grant hyd 25 Chwefror 2015.
Cafodd y rhan fwyaf o argymhellion ‘Codi Golygon’ eu derbyn fis Gorffennaf y llynedd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a’r Gweinidog Addysg, Huw Lewis.
Bydd cyfrifoldebau’r Endid Cenedlaethol newydd yn cynnwys:
• Bod yn sefydliad amlwg sy’n pennu’r cyfeiriad strategol a chenedlaethol ar gyfer Cymraeg i Oedolion;
• Rhoi arweiniad i ddarparwyr Cymraeg i Oedolion;
• Codi safonau o safbwynt addysgu a dysgu Cymraeg i Oedolion;
• Datblygu cwricwlwm cenedlaethol o’r radd flaenaf sy’n briodol ac yn ennyn diddordeb disgyblion ynghyd â chreu adnoddau sy’n addas ar gyfer pob mathau o ddysgwyr.
‘Ffynnu’
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Rydym wedi ymrwymo i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru, gan roi cyfle i bobl ddysgu Cymraeg ac annog pobl i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
“Mae gan y rhaglen Cymraeg i Oedolion swyddogaeth hollbwysig o safbwynt cynyddu nifer y bobl a all siarad a defnyddio’r iaith.
“Cafodd argymhellion yr adolygiad diweddar o Gymraeg i Oedolion eu derbyn a bydd sefydlu’r Endid Cenedlaethol yn garreg filltir hollbwysig yn y broses hon.
“Bydd yr Endid Cenedlaethol yn pennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion hyd 2022 ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r grant cychwynnol hwn ar gyfer ei sefydlu.”
‘Creu cyfleoedd’
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
“Dylai pawb, beth bynnag y bo eu hoedran neu ble bynnag y maent yn byw, gael cyfle i ddatblygu eu sgiliau iaith a chyfoethogi eu profiad o fyw mewn gwlad ddwyieithog.
“Mae datblygu’r Endid Cenedlaethol a’r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn gamau pwysig tuag at gyflawni’r nod hwn ac mae’n tystio i’n hymrwymiad o safbwynt creu cyfleoedd i bobl ddysgu Cymraeg.”