Shrien Dewani gyda'i wraig Anni
Mae Shrien Dewani wedi cyrraedd nôl yn y DU ar ôl ei gael yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio ei wraig ar eu mis mel yn Cape Town bedair blynedd yn ôl.

Fe gyrhaeddodd Dewani, 34, faes awyr Gatwick y bore ma yn dilyn penderfyniad y barnwr mewn llys yn Ne Affrica ddydd Llun.

Cyhoeddodd y barnwr Jeanette Traverso na ddylai’r achos yn erbyn y gŵr busnes o Fryste barhau am fod tystiolaeth prif dyst yr erlyniad yn “anghyson”.

Roedd Dewani wedi gwadu cynllwynio i lofruddio ei wraig, Anni.

Mae tri dyn arall wedi eu cael yn euog am fod a rhan yn ei llofruddiaeth.

Mae’r penderfyniad wedi siomi teulu Anni Dewani sy’n ystyried dwyn achos sifil yn erbyn Dewani yn y DU.