iPad
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi ymddiheuro am chwarae gemau ar ei iPad yn ystod gwrandawiad y pwyllgor dethol yn y Senedd.
Yn y cyfamser mae’r awdurdodau yn Nhŷ’r Cyffredin wedi lansio ymchwiliad i ganfod pwy oedd wedi tynnu lluniau o’r AS Nigel Mills wrth iddo chwarae’r gêm boblogaidd Candy Crush Saga yn ystod sesiwn o’r Pwyllgor Gwaith a Phensiynau.
Ymddangosodd y lluniau o AS Amber Valley ym mhapur newydd The Sun.
Yn ôl llygad dyst roedd yr AS i’w weld yn chwarae’r gêm am gyfnod o dros ddwy awr a hanner.
Dywedodd llefarydd ar ran Tŷ’r Cyffredin fod rhywun wedi tynnu’r lluniau heb ganiatâd a’u bod wedi torri rheolau seneddol. Gall hynny arwain at wahardd yr unigolyn o’r Senedd.
Wrth ymddiheuro am y digwyddiad heddiw dywedodd Nigel Mills ei fod yn derbyn fod ei ymddygiad yn ystod y pwyllgor yn groes i’r hyn sydd i’w ddisgwyl gan AS a’i fod yn rhoi addewid na fydd yn digwydd eto.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi ei ddisgrifio fel “gwleidydd sy’n gweithio’n galed” gan ychwanegu ei fod yn sicr y bydd yn “gweithio’n galetach yn y dyfodol.”