Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi dweud ei fod yn “siomedig” gyda’r cynghorau a fethodd ag ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynglŷn ag uno’n wirfoddol.
Dim ond 11 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wnaeth gyflwyno awgrymiadau ar sut y bydden nhw’n hoffi gweld argymhellion Comisiwn Williams – sydd wedi awgrymu cwtogi nifer y cynghorau i unai 10,11 neu 12 – yn cael eu gweithredu.
A dim ond chwe chyngor ddywedodd y bydden nhw’n fodlon uno’n wirfoddol, sef Cyngor Conwy a Chyngor Sir Ddinbych; Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bro Morgannwg; yn ogystal â Chyngor Torfaen a Chyngor Blaenau Gwent.
Roedd y dyddiad cau i Awdurdodau Lleol gyflwyno eu datganiad o ddiddordeb mewn uno ar 28 Tachwedd.
“Rwy’n siomedig nad oedd gan hanner yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru ddim i’w ddweud am ffurf Llywodraeth Leol yng Nghymru. Wedi’r cyfan, eu dyfodol nhw a dyfodol eu cymunedau lleol sy’n cael eu trafod,” meddai Leighton Andrews.
“Rwy’n glir ynghylch fy uchelgais ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Rwyf am weld Cynghorau sy’n ymgysylltu â’u cymunedau ac sy’n cynnig cysondeb o ran perfformiad cryf, democratiaeth gadarn a llywodraethu da.”
Rhesymau
Cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais o ddiddordeb mewn uno, dywedodd sawl cyngor nad oedden nhw’n gweld gwerth ariannol mewn uno hefo’u cymdogion.
Dywedodd Pennaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, bod maint daearyddol y sir, yn ogystal â gallu’r cyngor i wneud toriadau yn golygu y byddai’n medru ”sefyll ar ei phen ei hun”.
Ychwanegodd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Môn: “Dw i’n anghytuno hefo ad-drefnu, dwi ddim yn meddwl y bydd unrhyw arbedion yn cael eu gwneud.”