Cafodd dwy briffordd eu cau yng nghanol dinas Los Angeles wrth i dân mawr barhau i losgi.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth tân Los Angeles fod dros 250 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn brwydro’r fflamau sydd i’w gweld o gryn bellter.

Dechreuodd y tân ar safle adeiladu, ond mae’n debyg nad oedd unrhyw un yn yr adeilad ar y pryd.

Adroddodd y Los Angeles Times fod dau adeilad arall wedi’u difrodi yn sgil y gwres llethol.

Mae’r briffordd 101 wedi’u chau i bob cyfeiriad.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y tân.