Mae dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod yn Kent.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i’w corff mewn ty yn Lady’s Gift Road, Southborough, am 1.30yp ddoe.

Dyw’r heddlu ddim eto wedi rhyddhau manylion am y wraig.

Ond mae Heddlu Kent wedi cadarnhau fod dyn 62 oed yn y ddalfa ac wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio.