Mae dynes yn y ddalfa yn yr Alban tra bod yr heddlu’n ymchwilio i farwolaeth bachgen pum mlwydd oed.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i’r plentyn yn Alva, Clackmannanshire, ddydd Gwener, wedi iddyn nhw dderbyn galwad gan rywun oedd yn pryderu amdano.

Roedd y bachgen wedi diodde’ “anaf sylweddol” i’w gorff, ac fe gyhoeddodd Wasanaeth Ambiwlans yr Alban iddo farw yno’n ddiweddarach.

Mae’r ddynes, 32, yn cael ei holi am y digwyddiad, ond mae’r heddlu wedi dweud nad ydyn nhw’n cysylltu’r digwyddiad gydag achos arall yn Falkirk oriau ynghynt, lle daethpwyd o hyd i gorff gwraig.