Mae Arweinydd UKIP wedi awgrymu y dylai mamau sy’n bronfwydo “eistedd yn y gornel” mewn bwytai, a hynny er mwyn osgoi tramgwyddo ar bobol.
Yn ôl Nigel Farage ni fyddai “yn rhy anodd” i fwydo plentyn mewn ffordd sydd “ddim yn amlwg a rhwysgfawr”.
Daw ei sylwadau wedi i fam gwyno bod gwesty moethus yn Mayfair wedi gofyn iddi osod hances dros ben ei babi tra’n ei fronfwydo.
“Tydw i ddim yn teimlo’n arbennig o gryf am y peth, ond mi rydw i’n gwybod bod llawer iawn o bobol yn teimlo’n anesmwyth.”
Pan ofynnwyd iddo a fyddai hi’n dderbyniol i westy ofyn i famau fynd i ystafell arbennig i fronfwydo, atebodd Farage: “Neu hwyrach eistedd yn y gornel”.