Y Canghellor, George Osborne, yn cyflwyno Datganiad yr Hydref heddiw
Wrth gyflwyno Datganiad yr Hydref yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, fe gyhoeddodd y Canghellor George Osborne y bydd cyfraddau busnes yn cael eu datganoli yn llawn i Gymru yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth Cymru.

Ychwanegodd ei fod hefyd yn gobeithio gweld cytundeb trawsbleidiol ynglŷn â datganoli pellach erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Dywedodd George Osborne bod datganoli cyfraddau busnes yn “gyfle gwych i hybu twf economi Cymru.”

Ond roedd newyddion cymysg i economi Prydain yn natganiad y Canghellor heddiw.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin, dywedodd Osborne fod disgwyl i’r economi fod wedi tyfu 3% erbyn diwedd y flwyddyn, sy’n fwy na’r rhagolygon o 2.7% ym mis Mawrth.

Dywedodd y bydd yr economi’n parhau i dyfu’n raddol dros y pedair blynedd nesaf.

Wrth i ddiweithdra barhau i ostwng, cyhoeddodd y Canghellor bod 500,000 o swyddi newydd wedi cael eu creu eleni, ac 85% ohonyn nhw’n swyddi llawn amser. Ond dywedodd bod y Llywodraeth wedi gorfod benthyg mwy na’r disgwyl a bod “cyfnod caled o’n blaenau o hyd.”

Y diffyg

Cyhoeddodd George Osborne bod y diffyg ariannol wedi cael ei haneru ers 2010, a bod disgwyl i Lywodraeth Prydain fenthyg dros £6 biliwn yn llai erbyn diwedd 2015.

Ychwanegodd y gallai’r diffyg ostwng i £75.9 biliwn yn 2015, a’i fod yn disgwyl i’r diffyg fod wedi cael ei wyrdroi erbyn 2018 fel bod £4 biliwn o arian wrth gefn.

Treth stamp

Un o gyhoeddiadau mwyaf blaengar y Canghellor oedd fod y dreth stamp yn cael ei diwygio ar gyfer perchnogion tai.

Ni fydd treth ar dai sy’n werth £125,000 neu lai, ac fe fydd yn codi i 2% am dai sy’n werth hyd at £250,000, 5% ar gyfer tai hyd at £925,000, i 10% ar gyfer tai sy’n werth hyd at £1.5 miliwn, a 12% am bris uwch na £1.5 miliwn. Bydd y newidadau yn dod i rym am hanner nos heno ac yn golygu gostyngiad mewn treth i 98% o bobl sy’n ei thalu.

Trethi eraill

Bydd y dreth ar danwydd yn parhau i gael i rewi am y tro, ac fe fydd rhagor o fuddsoddiad ar gyfer prosiectau cloddio am nwy yng ngogledd Lloegr.

O ran y banciau, fe fydd modd i gyfrifon ISA gael eu trosglwyddo i unigolion sydd wedi colli eu partneriaid heb fod treth ychwanegol yn cael ei chodi arnyn nhw, ac fe fydd modd i gyfrifon gynnwys hyd at £15,240 erbyn mis Ebrill nesaf cyn bod rhaid talu treth arnyn nhw.

Ni fydd unigolion sy’n colli eu partneriaid yn gorfod talu’r “dreth farwolaeth” o 55%, ac fe fydd y lwfans personol yn codi i £10,600 y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal, ni fydd rhaid i deithwyr awyr o dan 12 oed dalu treth ar deithiau o fis Mai nesaf ymlaen – bydd cynllun tebyg yn cael ei gyflwyno i unigolion dan 16 oed y flwyddyn ganlynol.

Yn ogystal ag ad-dalu’r ddyled o’r Rhyfel Byd Cyntaf, fe fydd teuluoedd gweithwyr dyngarol sy’n marw wrth eu gwaith yn talu llai o dreth o hyn ymlaen.

Dywedodd George Osborne hefyd y byddai dirwyon o’r banciau yn cael eu gwario ar gefnogi Gurkhas a’u teuluoedd.

Bydd TAW, sy’n cael ei dalu gan hosbisys a sefydliadau chwilio ac achub, yn cael ei ad-dalu.

Mae £1 biliwn yn llai na’r disgwyl wedi cael ei wario ar fudd-daliadau, meddai Osborne, ac fe fydd budd-daliadau ar gyfer pobol oedran gwaith yn cael eu rhewi am ddwy flynedd.

Bydd mewnfudwyr sydd heb obaith o ddod o hyd i waith yn colli eu budd-daliadau yn ôl cynlluniau newydd.

Iechyd

Bydd y Gwasanaeth Iechyd yn derbyn £2 biliwn ychwanegol bob blwyddyn hyd at 2020, ac fe fydd buddsoddiad o £1.2 biliwn ar gyfer meddygon teulu trwy ddargyfeirio dirwyon o’r banciau.

Bydd y lwfans cyflogaeth yn cael ei ymestyn fel ei fod yn cynnwys gofalwyr iechyd.