Mae menywod sy’n penderfynu rhoi genedigaeth gartref yn well eu byd na’r rhai sy’n dewis mynd i’r ysbyty, yn ôl arbenigwyr iechyd.

Dywed Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) fod tystiolaeth yn dangos bod menywod yn fwy diogel wrth roi genedigaeth gartref na phe baen nhw’n derbyn gofal meddygon.

Mae menywod sy’n rhoi genedigaeth yn yr ysbyty yn fwy tebygol o gael triniaethau megis llawdriniaeth cesaraidd neu episiotomi.

Dywed y Sefydliad fod meddygon yn annog menywod i gael llawdriniaethau fel modd o gyflymu’r broses o roi genedigaeth, tra bod bydwragedd yn fwy pwyllog yn y cartref.

Ond mae’r dystiolaeth hefyd yn dangos bod babanod sy’n cael eu geni i famau sy’n rhoi genedigaeth am y tro cyntaf yn fwy tebygol o wynebu trafferthion meddygol difrifol.

Mae NICE wedi annog grwpiau clinigol i sicrhau bod digon o adnoddau ar gael er mwyn rhoi’r dewis i fenywod ym mhle hoffen nhw roi genedigaeth.

‘Mwy o reolaeth’

Dywedodd cyfarwyddwr arferion clinigol NICE, yr Athro Mark Baker: “Mae’n anodd iawn esbonio pam fod hyn yn digwydd ond yr agosaf ydych chi i’r ysbyty ac os ydych chi yn yr ysbyty, rydych chi’n fwy tebygol o dderbyn gofal ysbyty a phrosesau llawfeddygol.

“Gall prosesau llawfeddygol fod yn gostus iawn, felly mae gofal bydwragedd yn werth yr arian tra’n rhoi mwy o reolaeth i’r fam a geni babanod iach.

Mae canllawiau NICE hefyd yn cynnwys gofal un-i-un i bob menyw sy’n rhoi genedigaeth.

Dywedodd cynghorydd polisi’r Ymddiriedolaeth Geni Plant Cenedlaethol, Elizabeth Duff: “Mae’r canllawiau hyn i’w croesawu gan y dylai roi’r hyder i fwy o fenywod gynllunio i roi genedigaeth mewn uned bydwragedd neu gartref.

“Mae’r opsiynau hyn yn ddiogel i’r rhan fwyaf o fenywod ac fe all gynnig manteision megis gofal bydwragedd adnabyddus a llai o ymyrraeth.”