Heddlu gwrth-frawychiaeth
Mae dau dŷ yng ngogledd Cymru wedi cael eu chwilio fel rhan o ymchwiliad i weithredoedd gwrth-frawychiaeth.
Mae Heddlu Scotland Yard wedi cael rhagor o amser i holi pump o bobol a gafodd eu harestio yn Dover nos Sul.
Cafodd dau ddyn 33 a 43 oed eu harestio yn Dover nos Sul, a chafodd dyn 28 oed ei arestio yn yr un lleoliad fore dydd Llun.
Cafodd dau ddyn arall 24 a 40 oed eu harestio yn nwyrain Llundain fore ddoe.
Maen nhw wedi’u harestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu annog gweithredoedd brawychol.
Mae dyn arall wedi cael ei gyhuddo o fewnfudo pobol yn anghyfreithlon trwy symud pobol o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i mewn i wledydd sy’n aelodau.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac fe fydd e’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster yfory.
Mae lle i gredu bod y troseddau’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd yn Syria, a bod gan un o’r pump gyswllt agos â’r clerigwr radical Anjem Choudary.
Daw’r newyddion wythnos yn unig wedi i Lywodraeth Prydain gyhoeddi Bil Gwrth-frawychiaeth a Diogelwch, sydd yn rhoi’r grym iddyn nhw atal unigolion sydd wedi’u hamau o fynd i ymladd yn Syria rhag dychwelyd i wledydd Prydain.