Y Canghellor George Osborne
Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne apelio ar bleidleiswyr i ganiatau iddo orffen y gwaith o geisio adfer yr economi wrth iddo gyhoeddi Datganiad yr Hydref heddiw.
Y disgwyl yw y bydd yn dweud ei fod am gynyddu faint o arian mae Llywodraeth Prydain yn ei fenthyg, ac fe allai gyhoeddi rhagor o doriadau ariannol i wasanaethau.
Fe fydd e’n dweud yn ystod ei ddatganiad ariannol olaf cyn yr etholiad cyffredinol fod swyddi’n cael eu creu yn gynt yng ngwledydd Prydain nag yn unrhyw un o wledydd eraill y G7.
Ond fe allai’r diffyg ariannol godi unwaith eto i fwy na £90 miliwn. Nod Llywodraeth Prydain yw dileu’r diffyg ariannol erbyn 2017-18.
Mae disgwyl iddo gyhoeddi £2 biliwn yn ychwanegol ar gyfer GIG Lloegr, ac yn sgil hynny bydd Cymru yn elwa o tua £70 miliwn yn ychwanegol gan Lywodraeth Prydain. Mae eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau isadeiledd sy’n cynnwys adeiladu twnnel ger Côr y Cewri yn Wiltshire a chynlluniau i wella amddiffynfeydd llifogydd.
Ymhlith y cyhoeddiadau eraill y mae disgwyl i Osborne eu gwneud mae:
– Buddsoddiad o oddeutu £1 biliwn mewn busnesau bychain a chanolig
– Adolygu cyfraddau busnes er mwyn hybu twf ariannol
– Comisiynu’r broses o adeiladu tai ar dir cyhoeddus am y tro cyntaf ers mwy na 40 mlynedd
– Defnyddio dirwyon banciau i helpu cyn-filwyr Ghurka
Ond mae’r cynlluniau wedi cael eu beirniadu gan Blaid Cymru hyd yn oed cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi’n ffurfiol.
Mae llefarydd ar ran Plaid Cymru wedi honni bod mesurau llymder Llywodraeth San Steffan yn “fethiant llwyr” a bod yn rhaid arallgyfeirio ar frys er mwyn adfer yr economi.
Yn ôl llefarydd ar y Trysorlys, Jonathan Edwards, mae’r cynnydd mewn anghyfartaledd cyfoeth ledled Prydain a’r buddsoddiad yn ne ddwyrain Lloegr yn golygu nad yw’r mwyafrif o bobol gyffredin yn profi adferiad economaidd o gwbl.
Mae’r AS hefyd wedi beirniadu penderfyniad “byrbwyll” Llywodraeth Cymru i wario’r gyllideb fenthyg gyfan ar yr M4, tra bod pob cornel o Gymru yn galw am fuddsoddiad isadeiledd.
Dioddef
“Gydag ond rhai misoedd i fynd nes diwedd y Senedd hon, mae hi’n amlwg fod arbrawf llymder y Llywodraeth wedi profi’n fethiant llwyr.
“Mae Cymru wedi dioddef bron yn fwy nag unman arall yn sgil llymder gyda’r economi Gymreig wedi colli dros £1biliwn o ganlyniad i doriadau lles yn unig. Ond yn syfrdanol mae Llafur wedi dweud y byddant yn etifeddu cynllun y Torïaid o gosbi’r tlawd am gamgymeriadau’r 1% drwy ymrwymo i doriadau pellach pe baent yn ffurfio’r llywodraeth nesaf.
“Mae Plaid Cymru eisiau gweld buddsoddiad isadeiledd ledled Cymru gyfan – o drydedd bont dros y Fenai i ailagor rheilffyrdd yn y canolbarth i system Metro De Cymru a llawer mwy.”
Bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi Datganiad yr Hydref am tua 12:30 heddiw.