Mae esblygiad cyflym HIV yn lleihau ei allu i achosi Aids, yn ôl astudiaeth newydd.
Canfu’r astudiaeth fod datblygu ymwrthedd i imiwnedd naturiol cleifion yn achosi i’r firws fod yn llai heintus a llai marwol.
Daeth awduron yr adroddiad, a gafodd ei arwain gan Brifysgol Rhydychen, i’r casgliad fod hyn yn gwneud “cyfraniad pwysig” yn y frwydr yn erbyn HIV.
Gwelwyd hefyd fod mynediad i gyffuriau yn erbyn HIV hefyd yn arafu datblygiad HIV i Aids.
Roedd mwy na 2,000 o fenywod, sydd wedi’u heintio a HIV yn Ne Affrica a Botswana, wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth.