Ysgol yr Olchfa, Abertawe lle'r oedd James Lock yn ddisgybl
Mae cwest i farwolaeth bachgen 15 oed, gafodd ei ddarganfod yn farw mewn coedlan yn Abertawe, wedi cofnodi rheithfarn naratif.
Cafwyd hyd i gorff James Lock, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Olchfa, yn crogi mewn coedlan gerllaw’r ysgol ar Ffordd Gŵyr yn ardal Sgeti ym mis Ebrill.
Dywedodd Crwner dros dro Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Colin Phillips, ei fod yn cofnodi rheithfarn naratif yn hytrach nag un o hunanladdiad – gan nad oedd bwriad y bachgen yn “hollol glir”, yn ôl swyddfa’r crwner.
Fe wnaeth y Crwner fynegi ei gydymdeimlad gyda’r teulu, gan ychwanegu: “Dyma farwolaeth drasig o ddyn ifanc iawn oedd â llawer iawn i’w gynnig.”