Bydd John Arthur Jones yn mynd gerbron Llys y Goron Caernarfon ar 8 Rhagfyr
Mae un o gyn-gynghorwyr Ynys Môn, John Arthur Jones, wedi bod o flaen llys i wynebu 13 o gyhuddiadau o beryglu awyrennau drwy fflachio golau atyn nhw.

Ymddangosodd John Arthur Jones, 64, o Fodffordd yn Llys Ynadon Caergybi heddiw, ond fe benderfynwyd y dylai’r achos fynd gerbron Llys y Goron.

Honnir i’r troseddau ddigwydd rhwng Tachwedd 2013 a Medi 2014 ym Modffordd, a’u bod yn ymwneud ag awyrennau’r Awyrlu o faes awyr Y Fali yng ngogledd-orllewin yr ynys.

Mae John Arthur Jones yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad yw’n goleuo tortsh nag unrhyw ddyfais arall y tu allan i’w gartref.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar 8 Rhagfyr.