Gweithwyr o Aberystwyth yw’r rhai mwyaf anhapus yng ngwledydd Prydain, yn ôl arolwg diweddar o batrymau gwaith pobl mewn 30 o drefi a dinasoedd.
Fe ofynnwyd i 2,000 o bobl am eu horiau gwaith, nifer o swyddi, a’u hapusrwydd presennol, mewn arolwg gan gwmni Conference Genie.
Aberystwyth oedd ar waelod y tabl, gyda gweithwyr y dref yn rhoi sgôr cyfartalog o 3.42 pan ofynnwyd pa mor hapus oedden nhw â’u gwaith.
Ond roedd hi’n stori wahanol i Wrecsam, oedd yn drydydd o ran hapusrwydd ei gweithwyr gyda sgôr o 6.47.
Oriau hyblyg
Darlun mwy cymysg oedd hi yn yr arolwg i ddwy ddinas fwyaf Cymru, gyda Chaerdydd yn ddegfed allan o 30 â sgôr o 6.06, ac Abertawe yn 24ain ar 5.38.
Plymouth oedd â’r sgôr uchaf – 7.38 – ac roedd dinasoedd fel Leeds, Rhydychen a Chaerwrangon hefyd yn uchel ar y rhestr.
Yn ymuno ag Aberystwyth yn y gwaelodion roedd Coventry, Aberdeen a Brighton & Hove.
Yn ôl llefarydd o Conference Genie mae’n bosib fod oriau gwaith hyblyg yn ffactor bwysig wrth ddylanwadu ar hapusrwydd gweithwyr.
Dywedodd 54% o weithwyr Plymouth eu bod yn cael gweithio oriau hyblyg, ond dim ond 42% o weithwyr Aberystwyth oedd yn cael y fraint honno.
Ond mae’r ddwy dref yn eithaf agos o ran cyflog cyfartalog, yn ôl ffigyrau’r ONS, gyda gweithwyr Plymouth yn ennill £382.40 yr wythnos a rhai Aberystwyth yn cael £370.70.
Gweithio’n hwyr
Fe ofynnodd yr arolwg hefyd faint o oriau ychwanegol oedd pobl yn ei weithio y tu hwnt i hynny oedd yn eu cytundebau gwaith.
Aberystwyth oedd yr ail uchaf o ran oriau ychwanegol, gyda gweithwyr yn treulio 7.84 awr yn fwy wrth eu gwaith.
Roedd Abertawe yn bedwerydd, gyda’u gweithwyr nhw yn gweithio 7.07 o oriau ychwanegol bob wythnos ar gyfartaledd, a Wrecsam yn seithfed ar 6.93.
Dim ond 4.56 o oriau ychwanegol yr oedd gweithwyr Caerdydd yn ei wneud, fodd bynnag – y pumed isaf ym Mhrydain.
Y cyfartaledd ar draws Prydain pan oedd hi’n dod at oriau ychwanegol bob wythnos oedd 6.36.
Dim syndod, felly, bod 58% o weithwyr Aberystwyth yn ystyried symud i ffwrdd ar gyfer eu swydd nesaf.