Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn dweud bod arferion “proffesiynol a threfnus” i’w gweld o fewn Uned Gofal Coronaidd/Llai Dwys Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd sydd dan ofal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Er hyn, mae lle i wella mewn pedwar maes sef cofnodi dogfennau, cyfathrebiad â chleifion, cyfleusterau a niferoedd staff.
Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ymweld â’r ysbyty yn Hwlffordd yn ddirybudd ar 2 Medi 2014.
Dywed yr adroddiad: “Yn gyffredinol, er bod derbynfa gychwynnol y ward yn dywyll a digroeso, fe wnaethom ganfod nad oedd hwn yn adlewyrchiad o’r safonau o ofal a chefnogaeth a gynigir ar y ward.”
“Cawsom ein cyfarfod gan dîm staff cyfeillgar, proffesiynol a threfnus a oedd yn gweithio mewn amgylchedd ward hynod brysur ac arbenigol.
“Gwelsom gleifion yn cael eu trin gyda pharch ac urddas a nododd adborth gan gleifion a pherthnasau gefnogaeth gadarnhaol iawn i’r gofal iddynt ei dderbyn ar Ward 8.”
Ond roedd pryder am y meysydd canlynol:
• Dogfennau
• Cyfathrebiad â chleifion
• Cyfleusterau gwell
• Niferoedd staff
Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan AGIC.