Mae ymgyrch i fynd i’r afael a galwadau ffôn twyllodrus wedi cael ei lansio ar ôl i ffigurau newydd dangos cynnydd yn yr arian a gollwyd o ganlyniad i dwyll o’r fath y llynedd.
Nawr, mae Financial Fraud Action UK (FFA), sy’n cynrychioli banciau, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau cardiau credyd, wedi lansio ymgyrch hysbysebu genedlaethol i dynnu sylw’r cyhoedd at alwadau ffôn twyllodrus.
Darganfu arolwg gan y sefydliad fod £23.9 miliwn wedi cael ei golli o ganlyniad i dwyll yn y flwyddyn ddiwethaf – tair gwaith yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
Canfu hefyd fod 58% o bobl yn derbyn galwadau amheus yn gofyn am eu manylion banc, cynnydd o 17% o’i gymharu â 12 mis yn ôl.
Mae’r ymgyrch, sydd wedi derbyn cefnogaeth yr heddlu, yn annog defnyddwyr i beidio â rhoi eu rhif PIN dros y ffôn, hyd yn oed os ydynt yn credu eu bod yn siarad â staff banc neu swyddog heddlu.
Ychwanegodd y FFA na ddylai pobl fyth â rhoi eu cyfrineiriau ar-lein dros y ffôn neu gytuno i drosglwyddo arian i gyfrif newydd.