Mae’r cwmni yswiriant Aviva am brynu cwmni Friends Life mewn cytundeb gwerth £5.2 biliwn.

Cadarnhaodd y ddau gwmni fanylion y cytundeb heddiw, wythnos ar ôl datgelu eu bod mewn trafodaethau i greu’r cwmni yswiriant, cynilion a rheoli asedau busnes mwyaf yn y DU yn ôl nifer y cwsmeriaid.

Wrth ychwanegu portffolio Friends Life, bydd nifer cwsmeriaid Aviva yn codi o 11 miliwn i 16 miliwn yn ôl prif weithredwr Aviva, Mark Wilson.

Ond rhybuddiodd Mark Wilson y bydd yr uno, all arbed hyd at £225 miliwn i Aviva erbyn diwedd 2017, arwain at ostyngiadau yn nifer y staff. Mae dyfalu wedi bod y gall 2,000 o swyddi gael eu colli.

Cafodd Friends Life ei sefydlu yn 2011 yn dilyn uno Friends Provident, y rhan fwyaf o Axa UK Life a Bupa Health Assurance.