Protestiwr yn cael ei arestio yn Hong Kong
Mae tri o arweinwyr y protestiadau yn Hong Kong – dau athro a gweinidog – yn galw am roi terfyn i’r protestiadau er mwyn atal trais a chymryd yr ymgyrch dros ddiwygiadau democrataidd ymlaen i’r cam nesaf.

Dywedodd Benny Tai Yiu-ting, Chan Kin-man a Chu Yiu-ming eu bod yn bwriadu ildio i’r heddlu yfory a chymryd cyfrifoldeb am y protestiadau sydd wedi cau rhannau o’r ardal ariannol am fwy na dau fis.

Er hynny, dim ond un garfan o’r protestwyr mae’r tri yn eu cynrychioli gan fod y rhan fwyaf o’r rhai sydd ar y strydoedd yn fyfyrwyr.