Mae cyffur lewcemia a gafodd ei brofi ym Mhrifysgol Caerdydd, a’i wrthod gan y corff ymgynghorol iechyd, yn mynd i fod ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd (GIG) ar ôl i’r gwneuthurwr gytuno i ostwng y pris.

Dyfarnodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE) ym mis Hydref na ddylai obinutuzumab, a gafodd ei dreialu yng Nghaerdydd, fod ar gael yn eang i gleifion sy’n dioddef o lewcemia lymffosytig cronig (CLL) oherwydd y pris.

Ond yn y canllawiau drafft sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, mae’r corff iechyd wedi gwyrdroi ei benderfyniad ar y sail bod y cyffur, sydd hefyd yn cael ei alw’n Gazyvaro, wedi cael ei gynnig am bris llai.

CLL yw’r math mwyaf cyffredin o lewcemia ymhlith oedolion yn y DU, gyda mwy na 3,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn.

Dywedodd y cwmni fferyllol bod 22% o gleifion a gafodd y cyffur, ochr yn ochr â chemotherapi, yn ystod treialon clinigol yn “rhydd o’r clefyd” ar ôl y driniaeth.

Bydd ymgynghoriad ar y canllawiau drafft yn dechrau yng Nghymru a Lloegr o heddiw ymlaen.