Andrew Mitchell
Mae’r cyn-Brif Chwip oedd wedi’i gyhuddo o alw plismon yn ‘pleb’ wedi colli achos enllib yn erbyn papur newydd y Sun.
Penderfynodd Andrew Mitchell ddwyn achos yn erbyn News Group Newspapers (NGN), sy’n berchen y Sun, yn dilyn cyhoeddi stori ym mis Medi 2012.
Dywedodd Mitchell fod yr erthygl wedi awgrymu ei fod yn euog o sarhau plismon y tu allan i Downing Street.
Yn ôl adroddiadau, roedd y plismon wedi’i atal rhag mynd ar ei feic trwy’r brif gatiau ar gyfer cerbydau.
Dywedodd y grŵp newyddion eu bod nhw wedi seilio’r stori ar gofnod y plismon Toby Rowland.
Wrth gyhoeddi’r dyfarniad, dywedodd Mr Ustus Mitting: “Am y rhesymau a roddwyd, rwy’n fodlon fy myd, o leiaf wrth gydbwyso tebygolrwydd, fod Mr Mitchell wedi dweud y geiriau honedig neu rywbeth tebyg iddyn nhw fel ei fod yn cyfateb i’r gair gwleidyddol wenwynig ‘pleb’.”
Bydd rhaid i Mitchell dalu costau o hyd at £300,000 yn dilyn yr achos.