Lee Rigby
Mae Aelod Seneddol wedi galw am anrhydeddu tair dynes oedd wedi ceisio helpu’r milwr Lee Rigby ar y diwrnod y cafodd ei lofruddio.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol yn Swydd Hampshire, Julian Lewis y dylai Ingrid Loyau-Kennett, Amanda Donnelly a Gemini Donnelly-Martin dderbyn Medal Siôr neu Ganmoliaeth y Frenhines.

Roedd y tair wedi ceisio helpu Lee Rigby wrth i Michael Adebolajo a Michael Adebowale ymosod arno ger barics milwrol Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ar Fai 22 y llynedd.

Aeth Ingrid Loyau-Kennett at un o’r ddau ymosodwr ac roedd Amanda Donnelly a Gemini Donnelly-Martin wedi aros gyda Lee Rigby tra ei fod ar lawr yng nghanol y ffordd.

Dywedodd Julian Lewis yn San Steffan: “A gawn ni glywed pam nad yw’r tair dynes ddewr iawn wedi derbyn Canmoliaeth y Frenhines na Medal Siôr er eu bod nhw’n llawn deilwng?”

Dywedodd arweinydd Tŷ’r Cyffredin, William Hague y byddai’n tynnu sylw Prif Weinidog Prydain, David Cameron at y mater.