Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi bwriad i benodi llysgennad ym mhob ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r mudiad ac annog aelodaeth.

Disgyblion dosbarth chweched fydd yn cael eu penodi yn llysgenhadon ac mi fydden nhw’n gyfrifol am ledaenu gwybodaeth am ddigwyddiadau a theithiau’r Urdd i aelodau iau’r ysgol.

Bwrdd Syr IfanC, sef fforwm drafod i aelodau 16 – 24 oed yr Urdd, sydd wedi ysbrydoli’r syniad, gan eu bod yn teimlo y byddai aelodau ifanc yr Urdd yn ymateb yn dda i ddisgyblion hŷn.

Mae’n cael ei dreialu ar hyn o bryd mewn pum ardal – Caerfyrddin, Ceredigion, Môn, Dinbych a Chaerdydd.

Diddordeb

Yng Ngheredigion, mae llysgenhadon wedi eu penodi yn y saith ysgol uwchradd a Choleg Ceredigion gyda degau o fewn pob ysgol yn gwneud cais am y rôl.

“Mae’n datblygu sgiliau’r bobl ifanc o ran cymryd cyfrifoldeb, arwain a hyrwyddo digwyddiadau. Mae rhai wedi dechrau clwb Cymraeg amser cinio ble maent yn cynnal gweithgareddau i ddisgyblion iau’r ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Luned George, Swyddog Ieuenctid Ceredigion.

Ychwanegodd Luned Jones sy’n llysgennad yn Ysgol Bro Pedr, Llambed: “Mae’n gyfle gwych i ddiolch i’r mudiad am yr holl gyfleoedd rwyf wedi eu cael a’r sgiliau rwyf wedi’u meithrin drwy fod yn aelod dros y blynyddoedd.”

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno yn genedlaethol erbyn yr haf.