Mae nifer yr achosion o facteria mewn cyw iâr sy’n cael eu prynu’n ffres wedi cynyddu ers mis Awst, yn ôl canlyniadau profion sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw.
Mae cyflenwyr cyw iâr wedi methu â chyrraedd targedau i leihau’r achosion ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn dweud bod bacteria mewn 70% o’r cig a gafodd ei brofi – o’i gymharu â 59% ym mis Awst.
Campylobacter, y bacteria sydd dan sylw, yw’r math mwyaf cyffredin o facteria sy’n achosi gwenwyn bwyd yng ngwledydd Prydain.
Yn ôl yr Asiantaeth, Asda oedd wedi gwerthu’r mwyaf o gig oedd wedi’i wenwyno (78%).
Roedd 73% o gyw iâr y Co-operative wedi’i wenwyno, a’r lefelau mewn archfarchnadoedd eraill yn 69% (Morrisons, Sainsbury’s a Waitrose), yn 67% yn Marks & Spencer ac yn 64% yn Tesco.
Doedd dim ystadegau ar gael ar gyfer Aldi, Lidl nac Iceland.
‘Cymryd camau’
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd bod yr ystadegau’n dangos nad yw’r archfarchnadoedd yn llwyddo i reoli bacteria.
Ychwanegodd ei bod yn debygol bod y ganran yn uwch oherwydd bod yr ail ddarlleniad wedi cael ei gymryd yn ystod misoedd yr haf, pan fo bacteria ar gynnydd oherwydd y tywydd cynnes.
Mae 4,000 cyw iâr yn cael eu profi rhwng mis Chwefror eleni a mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Mae rhai archfarchnadoedd eisoes wedi dechrau cymryd camau i leihau’r achosion, wrth i’r Co-operative a Marks & Spencer gyflwyno cyw iâr sydd eisoes wedi cael ei rostio mewn bagiau.