Byddai Llywodraeth Lafur yn atal ysgolion preifat rhag derbyn toriadau treth sydd werth cannoedd o filiynau o bunnoedd, oni bai eu bod yn gwneud mwy i helpu ysgolion gwladol.

Bydd llefarydd Llafur dros addysg, Tristram Hunt, yn gwneud ei rybudd mewn araith allweddol heddiw.

Amcangyfrif bod y toriadau treth i ysgolion preifat werth £700 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd.

Mae disgwyl i Tristram Hunt ddweud y bydd Llywodraeth Lafur yn deddfu er mwyn sicrhau na fydd yr ysgolion yn gymwys am y toriadau os nad ydynt yn cyrraedd “safon partneriaeth ysgolion” newydd.

O dan y system, byddai angen i ysgolion preifat ddarparu athrawon mewn pynciau arbenigol i ysgolion gwladol, ac i rannu arbenigedd er mwyn helpu disgyblion gael eu derbyn i’r prifysgolion gorau.

Byddant hefyd yn gorfod cynnal rhaglenni allgyrsiol ar y cyd gydag ysgolion gwladol, fel partneriaid cyfartal, fel bod plant o’r sectorau gwladol a phreifat yn cymysgu gyda’i gilydd a dysgu oddi wrth ei gilydd.

‘Arf aneffeithiol’

Bydd Tristram Hunt, a gafodd addysg breifat ei hun, yn cyfeirio at ffigyrau sy’n dangos mai dim ond 3% o ysgolion preifat sy’n noddi academi, tra bod 5% yn rhoi staff ar fenthyciad i ysgolion y wladwriaeth, ac mae traean yn rhannu cyfleusterau gydag ysgolion gwladol.

Mae’r cyhoeddiad yn debygol o ysgogi ffrae newydd rhwng Llafur a’r sector ysgolion preifat. Dywedodd Barnaby Lenon, cadeirydd y Cyngor Ysgolion Annibynnol, y byddai cael gwared ar y toriadau trethi yn “arf aneffeithiol iawn” o ran gwella symudedd cymdeithasol.

Meddai Barnaby Lenon wrth y Daily Telegraph.: “Mae ysgolion annibynnol wedi ymrwymo i helpu ehangu mynediad i’w hysgolion ac i wella symudedd cymdeithasol.

“Eisoes mae 90% o’n hysgolion yn cymryd rhan mewn partneriaethau ystyrlon ac effeithiol gydag ysgolion y wladwriaeth a’u cymunedau lleol.”