Fe all y gost o gwtogi ar nifer y cynghorau yng Nghymru fod hyd at £268 miliwn, yn ôl adroddiad newydd gan gyfrifydd annibynnol.
Er hyn, mae’r adroddiad yn dweud y gall uno awdurdodau olygu arbedion blynyddol o hyd at £65 miliwn yn y pen draw.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif mai tua £200m fyddai’r gost ond mewn adroddiad newydd sy’n cael ei ryddhau heddiw, mae’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (SSCCC) yn dweud y gall y gost fod rhwng £160 a £268 miliwn.
Mae’r sefydliad yn amcangyfrif y gall costau personél fod gymaint â £158 miliwn, a’r gost o newid adeiladau a systemau o fewn cynghorau newydd fod tua £54miliwn. Roedd hefyd yn rhybuddio bod gwahaniaethau sylweddol am fod wrth i wahanol gynghorau uno.
Uno gwirfoddol
Mae gan gynghorau Cymru tan ddiwedd yr wythnos i benderfynu os ydyn nhw am uno’n wirfoddol a chyngor cyfagos, yn unol ag argymhellion Comisiwn Williams.
Awgrym y comisiwn yw cwtogi’r cynghorau o 22 i unai 10,11,12 ond mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol, Leighton Andrews, wedi dweud bod rhai eisiau gweld cyn lleied â chwe chyngor.
Dim ond cynghorau Dinbych a Chonwy sydd wedi cytuno i uno’n wirfoddol hyd yn hyn.
Tystiolaeth
Dywedodd Prif Weithredwr SSCCC, Rob Whiteman: “Os yw uno cynghorau am weithio i’r cyhoedd, mae’n rhaid i wleidyddion ddarparu sylfaen o dystiolaeth fel bo swyddogion yn medru penderfynu ac asesu bwriadau Llywodraeth Cymru.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cost sylweddol ynghlwm a pheidio cwtogi nifer y cynghorau hefyd.
“Gallwn ni ddim fforddio methu’r cyfle yma i newid strwythur ein cynghorau a defnyddio cyllid i wella gwasanaethau.”