David Cameron
Fe fydd David Cameron dan bwysau cynyddol heddiw i symud Prydain ymhellach o’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y cyn weinidog yn y Cabinet, Owen Paterson, yn annog y Prif Weinidog i wneud cais i adael yr UE yn syth ar ôl yr etholiad cyffredinol os fydd yn parhau mewn grym.

Yn ol y Times fe fydd Owen Paterson yn defnyddio ei araith i’r grwp Business for Britain i rybuddio cefnogwyr “Brexit” y gallai pleidleiswyr benderfynu cadw’r status quo oni bai eu bod yn cael “gweledigaeth glir” o’r sefyllfa ar ol gadael yr UE.