Mae dyn 21 oed wedi marw yn dilyn damwain ffordd ddifrifol ar yr A470 ger Aberhonddu bnawn Sul.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys a’r gwasanaethau brys eu galw i leoliad ger canolfan addysg awyr agored y Storey Arms yn Aberhonddu am 14:10.
Mae’n debyg bod car a dau feic modur wedi bod mewn gwrthdrawiad a bod gyrrwr y beic modur wedi ei ladd.
Bu’r ffordd rhwng yr A4215 a’r A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd ynghau am sawl awr ond mae hi bellach wedi ail-agor.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddamwain i gysylltu â’r heddlu ar 101.