Theresa May yn cefnogi'r deddf
Bydd yr Heddlu yn derbyn pwerau i orfodi cwmnïau rhyngrwyd i drosglwyddo manylion a allai helpu darganfod terfysgwyr a phedoffiliaid.

Dywedodd Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain,Theresa May AS, y byddai’r mesur yn rhoi hwb i ddiogelwch cenedlaethol.

Bwriad  Deddf  Gwrthderfysgaeth a Diogelwch, yw gorfodi darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd i gadw gwybodaeth ar gyfeiriadau rhyngrwyd defnyddwyr unigol.

‘Cam yn y cyfeiriad iawn’

Meddai Theresa May: “Mae’r Mesur yn rhoi cyfle i ddatrys y problemau gwirioneddol sy’n bodoli ac yn gam yn y cyfeiriad iawn tuag at bontio’r bwlch cyfathrebu yma.

“Mae’n fater o ddiogelwch cenedlaethol a rhaid i ni barhau i wneud yr achos dros y Mesur Data Cyfathrebu nes ein bod yn cael y newidiadau yr ydym ei angen.”

Angen mwy o ymgynghori

Dywedodd Emma Carr, cyfarwyddwr grŵp ymgyrchu Big Brother Watch,: “Mae’n gwbl rhesymol gweld yr heddlu yn derbyn y pwerau i’w galluogi i ymchwilio i berson sy’n defnyddio’r gwasanaeth rhyngrwyd.

“Fodd bynnag, os oes angen pŵer o’r fath, yna dylai fod yn destun ymgynghoriad eang a chraffu cynhwysfawr.

“Dylai’r Ysgrifennydd Cartref  fynd i’r afael â’r ffaith mai un o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu’r heddlu yw gwneud defnydd o’r gyfrol enfawr o ddata sydd eisoes ar gael. Mae hyn cynnwys data o gyfryngau cymdeithasol a chwmnïau rhyngrwyd.”