Rhan o'r llun tramgwyddus (trwy law PA)
Mae un o lefarwyr mainc flaen y Blaid Lafur yn San Steffan wedi gorfod ymddiswyddo ar ôl cael ei chyhuddo o snobyddiaeth tros lun mewn neges trydar.
Fe gyhoeddodd Emily Thornberry ei bod yn gadael swydd y Twrnai Cyffredinol cysgodol oherwydd y dadlau tros y llun o fan wen a baneri San Siôr o isetholiad Rochester a Strood.
Fe ymddiheurodd aelod De Islington a Finsbury ar ôl cael ei dwrdio gan arweinydd y blaid, Ed Miliband.
Roedd aelodau Llafur eraill wedi cwyno bod y llun yn sarhad ar bobol fel nhw a’u cyfeillion.
Ymddiheuriad
“Ynghynt heddiw fe bostiaid i dwît sydd wedi digio rhai pobol,” meddai Emily Thornberry mewn datganiad. “Doedd hynny ddim yn fwriad gen i a dw i wedi ymddiheuro.”
Ond mae gwrthwynebwyr y Blaid Lafur eisoes wedi bachu ar y digwyddiad.
Roedd y llun yn sarhad ar faner genedlaethol Lloegr, meddai Ysgrifennydd Cymunedau y Ceidwadwyr. Eric Pickles.
Ac yn ôl arweinydd UKIP, Nigel Farage, roedd yn dangos beth oedd dan yr wyneb gydag Ed Miliband ei hun.