Ched Evans a'i gariad
Mae clwb pêl-droed Sheffield United wedi newid eu meddwl ynglŷn â gadael i’r treisiwr Ched Evans ymarfer gyda nhw, ar ôl i’r clwb gael ei feirniadu’n chwyrn a wynebu boicot gan noddwyr amlwg.

Yr wythnos ddiwetha’ fe benderfynodd y clwb adael i’w cyn ymosodwr ddychwelyd i ymarfer, ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar ar ôl treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Y Rhyl.

Ond maen nhw nawr wedi tynnu’r cynnig hwnnw yn ôl, gan gyfaddef nad oedden nhw wedi disgwyl i’r ymateb fod mor chwyrn.

Colli cefnogaeth

Daeth y clwb o dan y lach ar ôl i’r newyddion dorri’r wythnos diwethaf y byddai Ched Evans yn dychwelyd i’r clwb i hyfforddi, gyda llawer yn credu mai dyma oedd y cam cyntaf tuag at gynnig cytundeb newydd iddo.

Fe ymddiswyddodd dau o noddwyr Sheffield United, y gyflwynwraig teledu Charlie Webster a’r canwr Dave Berry, yn dilyn y cyhoeddiad.

Yna fe ddywedodd yr athletwraig Jessica Ennis-Hill y byddai eisiau tynnu’i henw oddi ar eisteddle yn stadiwm y clwb yn Bramall Lane os oedd Ched Evans yn cael cynnig cytundeb.

Datganiad

Mewn datganiad neithiwr fe gadarnhaodd Sheffield United na fydd croeso nawr i gyn ymosodwr Cymru ymarfer gyda nhw bellach.

“Mae’r ymateb i hyn wedi bod yn llawer mwy nag yr oedden ni wedi ei ddisgwyl pan gafodd y cyhoeddiad ei wneud gyntaf,” meddai datganiad gan y clwb.

“Mae aelodau’r bwrdd wedi siarad gyda’r cefnogwyr, is-lywyddion, aelodau o’r sefydliad cymunedol, swyddogion gweithredol, staff, noddwyr ac eraill er mwyn gwneud y penderfyniad yma.”

Evans eisiau dychwelyd

Hyd yn hyn dyw Ched Evans ddim wedi ymateb i’r cyhoeddiad gan Sheffield United, ond mewn fideo a gyhoeddodd ar ei wefan rai wythnosau yn ôl fe ddywedodd ei fod yn awyddus i ailafael yn ei yrfa bêl-droed.

Cafodd y pêl-droediwr ei garcharu yn 2012 ar ôl ei gael yn euog o dreisio’r ddynes flwyddyn ynghynt.

Ond mae wastad wedi gwadu’r cyhuddiad, gan ddweud fod y ddynes wedi rhoi caniatâd iddo gael rhyw â hi.

Ar hyn o bryd mae ganddo apêl gerbron y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.