Gallai tîm pêl-droed Cymru dan 16 oed gipio tlws y Victory Shield am y tro cyntaf ers 66 o flynyddoedd heno.
Mae’r tîm wedi teithio i Ballymena gan wybod y byddai gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Iwerddon yn ddigon i sicrhau eu lle yn y llyfrau hanes.
Pan gyfarfu’r ddau dîm yn yr un gystadleuaeth y llynedd, y Cymry oedd yn fuddugol o 4-0.
Mae’r rheolwr Osian Roberts wedi enwi’r tîm canlynol ar gyfer y gêm:
Coughlan (Caerdydd), Llewellyn (Bristol City), Williams (Blackburn), Angel (Caerdydd), Jefferies (Abertawe), Smallcombe (Caerwysg), Proctor (Caerdydd), Smith (Man City), Roberts (West Brom, capten), Woodburn (Lerpwl), Cullen (Abertawe)
Eilyddion: Przybek (West Brom), Levitt (Man U), Burton (Arsenal), Sosani (Caerdydd), Phillips (Wolves), Ampadu (Caerwysg), Evans (Abertawe).
Bydd y gêm yn cael ei darlledu’n fyw ar SKY Sports 5, gyda’r gic gyntaf am 6yh.
Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi trydar y neges ganlynol:
Pob lwc i @Osian_Roberts a’ r bechgyn. Creu hanes heno gobeithio. #TogetherStronger pic.twitter.com/UQsO5V6gCB
— FA Wales (@FAWales) November 20, 2014