Ched Evans (llun heddlu)
Mae cyflwynydd radio a ddywedodd yn ystod trafodaeth am Ched Evans y dylai merched “gadw eu dillad isaf ymlaen” yn yr ystafell wely wedi ymddiheuro.

Gwnaeth Nick Conrad ei sylwadau yn ystod rhaglen ar orsaf BBC Radio Norfolk, yn dilyn penderfyniad Sheffield United i groesawu’r pêl-droediwr o Gymru yn ôl i’r cae ymarfer.

Cafodd y cyflwynydd ei feirniadu’n hallt gan wrandawyr am ei sylwadau, ac fe ymddiheurodd ar ddechrau’r rhaglen y bore ma.

Roedd hynny wedi iddo gael cerydd gan ei reolwyr.

Yr ymddiheuriad

“Fe wnes i egluro sawl gwaith fod treisio yn beth atgas ac yn drosedd nad oes modd ei hesgusodi, ac nad yw merched sy’n dioddef i’w beio o gwbl,” meddai’r cyflwynydd.

“Rwy’n ymddiheuro wrth unrhyw un a gafodd ei sarhau gan yr hyn a ddywedais i.”

Beth oedd wedi’i ddweud

Ar y rhaglen, roedd Nick Conrad wedi dweud: “Dw i’n credu bod angen i ferched fod yn fwy ymwybodol o chwant rhywiol dynion, pan ydych chi yn y sefyllfa hynny eich bod ar fin cyflawni gweithred rywiol mae llawer iawn o egni yng nghorff dyn, mae llawer iawn o ewyllys a bwriad, ac mae’n anodd iawn i nifer o ddynion ddweud na pan fyddan nhw’n cael eu cyffroi’n lân.”

Mae cyrff sy’n gwarchod menywod sydd wedi cael eu treisio yn dweud bod y sylwadau’n enghraifft o anwybodaeth.

Roedd rhai pobol wedi cymharu’r cyflwynydd â chymeriad Steve Coogan – Alan Partridge, y cyflwynydd radio comig sy’n adnabyddus am roi ei droed ynddi a gwneud sylwadau ansensitif

‘Cytbwys’

Yn dilyn y rhaglen, dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Norfolk fod y drafodaeth yn gytbwys a bod y cyflwynydd wedi dweud bod treisio yn weithred atgas.

Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar y mis diwetha, wedi treulio dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes ifanc mewn gwesty yn Y Rhyl.