Jules Bianchi
Mae’r gyrrwr F1 Jules Bianchi wedi cael ei symud o’r ysbyty yn Siapan i ysbyty yn Ffrainc yn dilyn damwain ddifrifol chwe wythnos yn ôl.
Dydy Bianchi, 25, ddim bellach yn y coma y cafodd ei roi ynddo gan feddygon yn dilyn gwrthdrawiad rhwng ei gar Marussia a cherbyd diogelwch yn ystod Grand Prix Siapan ar Hydref 5.
Ond mae’n parhau’n anymwybodol ac mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Nice, er ei fod yn anadlu heb gymorth peiriant erbyn hyn.
Er ei fod e wedi cael ei symud i ysbyty ger ei gartref, mae meddygon yn rhybuddio bod brwydr hir o’i flaen o hyd oherwydd graddau’r anafiadau i’w ben.
Mae ei rieni, ei frawd a’i chwaer wedi bod wrth ei ochr yn yr ysbyty yn Yokkaichi.
Dywedodd y teulu mewn datganiad fod cael symud yn ôl i Ffrainc yn “gam pwysig” yn ei adferiad.
Yn dilyn y gwrthdrawiad, dywedodd cyfarwyddwr y ras, Charlie Whiting fod y tywydd yn gyfrifol am y digwyddiad.
Mae panel damweiniau awdurdod yr FIA, a gafodd ei sefydlu yn dilyn y ras, yn cynnal ymchwiliad pellach.