Stadiwm y Mileniwm
Mae astudiaeth wedi dangos bod disgwyl i £316 miliwn gael ei fwydo i economi Caerdydd o ganlyniad i gynnal rhai o gemau Cwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf.
Fe fydd wyth o gemau – gan gynnwys dwy o gemau Cymru – yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm.
Mae’r astudiaeth yn nodi y gall Llundain edrych ymlaen at gael hwb o £1.2 biliwn o gynnal y gystadleuaeth, gan gynnwys y gemau cynderfynol a’r rownd derfynol yn Twickenham.
Cafodd yr astudiaeth ei chomisiynu gan drefnwyr Cwpan Rygbi’r Byd i graffu ar y manteision i’r dinasoedd sy’n cynnal gemau.
Mae disgwyl i’r twrnament gyfrannu £2.2 biliwn i’r economi, sy’n cyd-fynd ag astudiaeth flaenorol gan Deloitte yn 2008.
Mae disgwyl i Gwpan Rygbi’r Byd 2015 ddenu mwy o ymwelwyr nag unrhyw dwrnament blaenorol, ac mae disgwyl iddyn nhw wario o leiaf £869 miliwn.
Dywedodd awdur yr adroddiad, Peter Arnold fod yr astudiaeth yn rhoi ystyriaeth i fuddsoddiad mewn isadeiledd, gwerthiant tocynnau a refeniw o drethi.
Gallai’r twrnament ddiogelu hyd at 41,000 o swyddi, gan gynnwys 16,000 o swyddi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â Chwpan Rygbi’r Byd.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal mewn 13 o leoliadau mewn 11 o ddinasoedd.