Malky Mackay, rheolwr newydd Wigan
Mae cyn-reolwr Caerdydd, Malky Mackay wedi’i benodi’n rheolwr newydd Wigan Athletic.

Cafodd yr Albanwr 42 oed ei ddiswyddo gan Gaerdydd fis Rhagfyr diwethaf, a hynny’n dilyn misoedd o anghydfod gyda pherchennog y clwb, Vincent Tan.

Ym mis Awst, cyfaddefodd Mackay ei fod e wedi anfon negeseuon testun oedd yn “amharchus i ddiwylliannau eraill” i gyfaill.

Mae Mackay yn wynebu talcen caled i dynnu ei glwb newydd allan o dri isaf y Bencampwriaeth.