Mae’r cwmni cemegau Ineos yn bwriadu buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn prosiect nwy siâl.
Bydd cynlluniau’r cwmni’n cael eu datgelu’n ddiweddarach heddiw, ond mae disgwyl i’r prosiect gael ei reoli o’i safle yn Grangemouth yn yr Alban.
Caiff nwy siâl ei dyllu gan ddefnyddio’r dechneg o ffracio, lle caiff dŵr a chemegau eu chwistrellu i mewn i graig ar wasgedd uchel.
Mae disgwyl i’r cynlluniau fod yn rhai dadleuol.
Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yr Alban, Richard Dixon: “Mae Llywodraeth yr Alban wedi cymryd camau gofalus iawn o ran nwy anghonfensiynol a ffracio, yn wahanol i Lywodraeth y DU.
“Gyda rheolau cynllunio mwy llym, targedau hinsawdd fwy uchelgeisiol ac adolygiad o faterion iechyd a thrwyddedau ar y gweill, yr Alban yw’r lle diwethaf y dylai unrhyw gwmni wneud cais iddo i ffracio.”