Michael Sheen
Mae’r actor o Bort Talbot, Michael Sheen yn ymweld ag ysgol yn Abertawe heddiw yn rhinwedd ei rôl fel un o lysgenhadon plant UNICEF.

Cafodd ymweliad yr actor ag Ysgol Pentrehafod ei drefnu ar Ddiwrnod Plant y Byd gan mai Cyngor Abertawe yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i ymrwymo i gytundeb rhyngwladol ar hawliau plant.

Mae’r cytundeb yn golygu bod hawliau plant bellach yn ganolog i holl weithgarwch y Cyngor Sir o ran ei wasanaethau cyhoeddus.
Bu Michael Sheen yn llysgennad UNICEF ers mis Hydref, yn dilyn nifer o ymddangosiadau yng ngêm bêl-droed flynyddol UNICEF, Soccer Aid.
Mae UNICEF yn gweithio mewn mwy na 190 o wledydd i ddylanwadau ar gyfreithiau, polisïau ac arferion er mwyn ceisio gwarchod plant ar draws y byd.